SL(5)030 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2016 yn dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru at ddiben cynnwys o fewn cynnig cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny. Mae'r Gorchymyn yn dynodi tri chorff: Byrddau Iechyd Lleol, Career Choices Dewis Gyrfa Limited a Hybu Cig Cymru-Meat Promotion Wales.

Y weithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae adran 126A(9) a (10) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Saesneg yn unig) yn darparu y bydd y Gorchymyn yn ddarostyngedig i naill ai'r weithdrefn gadarnhaol neu'r weithdrefn negyddol.

Mae'r memorandwm esboniadol (Saesneg yn unig) yn nodi bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol o'r farn y dylai'r Gorchymyn fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol gan nad oes unrhyw ffactorau sy'n nodi bod angen defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol. Mae'r Gorchymyn yn dynodi cyrff at ddiben cynnwys o fewn cynnig cyllidebol wybodaeth o ran yr adnoddau y disgwylir i'r cyrff hynny eu defnyddio. Drwy gynnwys adnoddau'r cyrff dynodedig yn y cynnig cyllidebol, bydd hynny'n lleihau anghysondebau rhwng y Gyllideb, Cynnig y Gyllideb a'r cyfrifon cyfunol, ond ni fydd yn effeithio o gwbl ar derfynau'r cyrff hynny o ran adnoddau. Felly, gellir ystyried bod cynnwys y Gorchymyn yn weinyddol gan y bydd yr effaith ar y Gyllideb yn gyflwyniadol.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016